Llenyddiaeth Fodernaidd

Llenyddiaeth Fodernaidd
T. S. Eliot, un o brif lenorion Modernaidd yr 20g.
Enghraifft o'r canlynolmudiad llenyddol Edit this on Wikidata
Rhan omoderniaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mudiad llenyddol a ddatblygodd yn nechrau'r 20g fel un o brif ffurfiau Moderniaeth yw llenyddiaeth Fodernaidd a nodweddir gan ymdoriad pwrpasol oddi wrth ddulliau draddodiadol o ysgrifennu barddoniaeth, rhyddiaith ffuglennol, a drama. Ceisiodd llenorion modernaidd archwilio ffurfiau a thechnegau llenyddol newydd i gynrychioli cymhlethdod y profiad o fodernedd a natur ranedig y gymdeithas fodern. Anogodd y bardd Ezra Pound awduron eraill i "Gwneud pethau'n newydd".[1]

Arbrofai llenorion modernaidd â ffurf, arddull, ac ieithwedd, ac ymdrechent i greu strwythurau traethiadol newydd sydd yn adlewyrchu natur ddryslyd a rhanedig bywyd modern. Canolbwyntient hefyd yn aml ar archwilio themâu seicolegol ac athronyddol, megis natur hunaniaeth, ymwybyddiaeth, a dirfod.[2]

Blodeuai Moderniaeth ar draws Ewrop ac Unol Daleithiau America, ac ymhlith y llenorion amlycaf mae T. S. Eliot, Virginia Woolf, James Joyce, William Faulkner, a Franz Kafka. Mae eu gweithiau yn nodedig am ddefnydd dyfeisgar ac arbrofol o iaith, naratifau anghonfensiynol, a themâu cymhleth neu gythryblus.

  1. Pound, Ezra, Make it New, Essays, London, 1935 (Saesneg)
  2. Childs, Peter (2008). Modernism (yn Saesneg). Routledge. t. 4. ISBN 978-0415415460.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search